Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
|
||
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Pleidleisiau a Thrafodion (184) |
1 Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg a Sgiliau
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd cwestiynau 1 i 2, 4 i 6 ac 8 i 15. Cafodd cwestiynau 2, 5 a 10 eu grwpio. Atebwyd cwestiynau 1, 4 a 9 gan y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg. Tynnwyd cwestiynau 3 a 7 yn ôl.
2 Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth
Dechreuodd yr eitem am 14.20
Gofynnwyd cwestiynau 1 i 4 a 6 i 15. Tynnwyd cwestiwn 5 yn ôl.
3 Dadl yn ceisio cytundeb y Cynulliad i gyflwyno Bil Arfaethedig Aelod ar Isafswm Lefelau Staffio Nyrsys (Kirsty Williams)
Dechreuodd yr eitem am 15.02
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
NDM5402 Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed):
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.91;
Yn cytuno y caiff Kirsty Williams gyflwyno Bil i weithredu'r wybodaeth cyn y balot a gyflwynwyd ar 15 Ebrill 2013 o dan Reol Sefydlog 26.90.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
39 |
12 |
0 |
51 |
Derbyniwyd y cynnig.
4 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Dechreuodd yr eitem am 15.55
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5444 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi pryderon a fynegwyd gan Syr Bruce Keogh ynglyn ag amseroedd aros a chyfraddau marwolaeth yn GIG Cymru.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gomisiynu ar unwaith adolygiad annibynnol o ysbytai Cymru sydd â chyfraddau marwolaeth sy'n uwch na'r cyfartaledd.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
20 |
0 |
31 |
51 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu cylch gwaith a swyddogaethau Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, yn dilyn y pryderon a godwyd ynghylch amseroedd aros a chyfraddau marwolaeth yn GIG Cymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
25 |
0 |
26 |
51 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu pa gamau y mae wedi’u cymryd i adolygu perfformiad ysbytai gyda data Mynegai Marwolaethau wedi'i Addasu yn ôl Risg (RAMI) sy’n uwch na’r disgwyl.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
51 |
0 |
0 |
51 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5444 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi pryderon a fynegwyd gan Syr Bruce Keogh ynglyn ag amseroedd aros a chyfraddau marwolaeth yn GIG Cymru.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gomisiynu ar unwaith adolygiad annibynnol o ysbytai Cymru sydd â chyfraddau marwolaeth sy'n uwch na'r cyfartaledd.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu pa gamau y mae wedi’u cymryd i adolygu perfformiad ysbytai gyda data Mynegai Marwolaethau wedi'i Addasu yn ôl Risg (RAMI) sy’n uwch na’r disgwyl.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
25 |
0 |
26 |
51 |
Gwrthodwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
5 Dadl Plaid Cymru
Dechreuodd yr eitem am 16.52
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5441 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod llwyddiant hanesyddol Cymru fel canolfan ar gyfer arloesi a diwydiant;
2. Yn cydnabod rhan ganolog strategaeth sy’n seiliedig ar allforio ar gyfer llwyddiant economaidd yn y dyfodol;
3. Yn credu bod dulliau newydd yn angenrheidiol i asesu'r gallu i allforio; a
4. Yn cefnogi ymdrechion i sicrhau potensial mwyaf posibl busnesau cynhenid i ehangu a chreu cyflogaeth a ffyniant.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
34 |
0 |
17 |
51 |
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyfnod Pleidleisio
Dechreuodd yr eitem am 17.46
6 Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 17.50
NDM5445 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Llong Ganoloesol Casnewydd – Wedi'i suddo ym 1469 ac yn 2014?
Cynyddu ymwybyddiaeth ac arwyddocâd hanesyddol unigryw'r llong hon i sicrhau ei chadwraeth a'i harddangos yng Nghasnewydd
Daeth y cyfarfod i ben am 18.07
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 11 Mawrth 2014